Event
Lansiad: 'Plesera' gan Elgan Rhys
Lansiad: 'Plesera' gan Elgan Rhys
Event Time: 07:00 PM, 03 July 2026
Doors: 07:00 PM
Couldn't load pickup availability
Dewch i wrando ar Elen Ifan yn holi Elgan Rhys am ei nofel newydd, Plesera - nofel amrwd, personol ac agos-at.
Mi fydd lluniaeth ysgafn wrth gyrraedd.
Croeso mawr i bawb!
Medrwch brynu copïau o'r llyfrau ar y noson.
Gwybodaeth Pellach
Bydd alcohol yn cael ei gweini yn y digwyddiad yma. Bydd seddi ar gael drwy'r holl ddigwyddiad.
Gwybodaeth Hygyrchedd
Bydd y digwyddiad yma yn cymryd lle tu fewn The Queer Emporium. Medrwch fynychu'r adeilad trwy blaen ein siop, sydd yn cynnwys un step, neu trwy'r mynediad arall, sydd heb unrhyw gamau na grisiau (os ydych chi eisiau defnyddio'r un olaf, gad i ni wybod ymlaen llaw oherwydd weithiau mae'r gât yn cloi). Mae yna hefyd tŷ bach anabl yn y siop.
Mae'r Queer Emporium wedi ei lleoli ar hanner deheuol Heol Eglwys Fair. Cyferbyn y mynediad, mae yna safle tacsis ac mae'n bosib i Ubers casglu chi o fynna neu, os mae'r heol ar gael, o'r Gwesty Marriott, sydd 0.4 milltir i ffwrdd. Yma, mae nifer o fysiau yn gorffen ac yn dechrau eu teithiau. Mae yna barcio ar gael yn St. David's Hall 2 a Maes Parcio John Lewis, sydd oddeutu 0.2 milltir o'r siop.
